Gwarchod enwau lleoedd Cymraeg… un GIF ar y tro!
Mae Sioned Young o Gaernarfon, sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro, wedi dechrau prosiect newydd o'r enw Hac y Gymraeg.
Drwy gydweithio gyda disgyblion uwchradd a chynradd gogledd Cymru, ei gobaith ydy codi ymwybyddiaeth o'r enwau Cymraeg ar lefydd drwy ddylunio a hyrwyddo cyfres o sticeri GIFs.
Mae sticeri GIFs yn ddelweddau llonydd sydd wedi'u hanimeiddio a gellir eu defnyddio ar amryw o blatfformau gan gynnwys Instagram, TikTok a Snapchat.
Mae Sioned eisoes yn gyfrifol am ddylunio dros 400 o GIFs iaith Gymraeg o fewn ei busnes, a bu'n siarad gyda BBC Cymru Fyw am ei phrosiect diweddaraf.
Fideo gan Rhys Thomas.