Pobl yn amharod i dderbyn bod dementia arnynt, medd elusen
Mae 50,000 o bobl yma yng Nghymru yn byw gyda dementia.
Er bod ein ymwybyddiaeth o'r cyflwr wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith ymwchil gan Alzheimers Society Cymru yn awgrymu bod pobl yn parhau yn amharod i dderbyn bod dementia ganddyn nhw.
Mewn arolwg sy'n cael ei ghoeddi ar ddechrau Wythnos Dementia yr elusen, roedd 30% o'r bobl a gafodd eu holi wedi aros dros fis cyn trafod y ffaith eu bod nhw - neu rhywun agos atyn nhw - yn dangos symtomau dementia.
Bu Karen Beattie o Abergele yn rhannu profiadau ei gŵr Robert, sy'n byw gyda dementia, ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun.