Llygredd afon: 'Pwyntio bys at y ffarmwr mor hawdd'
Mae ffermwr o Fôn yn cwestiynu pa mor deg yw'r cyfyngiadau newydd ar wasgaru slyri yng Nghymru, tra bod cwmni Dŵr Cymru yn parhau i gael gollwng gwastraff i afon ger ei fferm.
Gyda newidiadau diweddar i bolisïau llygredd Llywodraeth Cymru, mae safonau newydd wedi eu gosod ar y sector amaeth sy'n cynnwys cynyddu storfeydd silwair a slyri.
Dywedodd Gareth Pritchard Jones, sy'n cadw 300 o wartheg godro ar ei fferm, Carrog Ganol, Ynys Môn ei fod wedi gorfod gwario degau o filoedd o bunnoedd i gydymffurfio â'r gofynion newydd.
Ar yr un pryd, dywedodd bod un o safleoedd Dŵr Cymru ger ei dir yn parhau i ollwng gwastraff am dros ddwy awr y dydd ar gyfartaledd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned ffermio i wella ansawdd dŵr.
Mae Dŵr Cymru yn mynnu bod ganddyn nhw hanes "amgylcheddol cadarn".