Morfil marw Porth Neigwl 'yn sâl a ddim yn pwyso digon'
Roedd morfil pensgwar (sperm whale) gafodd ei ganfod yn farw ar draeth ym Mhen Llŷn mor denau fel bod modd gweld ei asennau.
Cafodd awtopsi ei gynnal ar yr anifail wedi iddo gael ei ganfod ym Mhorth Neigwl, ddiwrnod wedi digwyddiad tebyg yn Yr Alban.
Dywedodd arbenigwyr wnaeth archwilio'r morfil ei fod yn sâl a ddim yn pwyso digon pan aeth yn sownd ar y traeth, ac maen nhw wedi galw ar bobl i beidio mynd at y corff.
Ychwanegodd Rob Deaville, biolegydd môr wnaeth archwilio'r morfil, ei bod hi'n fenywaidd ac mai "dyma'r morfil pensgwar mwyaf tenau dwi erioed wedi gweithio arno".
Dyma'r ail forfil pensgwar yn unig i gael ei gofnodi yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf.