Eisteddfod: 'Gwerthfawrogi opsiwn amgen am eleni'

Bydd trefn y cystadlu i gorau yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst ddim yn newid wedi'r cwbl.

Roedd trefnwyr y Brifwyl wedi gobeithio cyflwyno newidiadau fel bod corau yn gorfod cystadlu mewn rowndiau cyn-derfynol.

Ond yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn, mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau na fydd hynny'n digwydd yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Fe fydd 'na drafod pellach ynglŷn â'r drefn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd un arweinydd côr ei fod yn gwerthfawrogi'r opsiwn amgen am eleni, a ychwanegodd un beirinaid ei bod yn "bwysig ymateb i'r farn gyhoeddus".

Ond yn ôl Beryl Vaughan, sy'n feirniad adrodd ac yn cyn-gadeirydd pwyllgor gwaith, mae angen "asbri newydd yn y cystadlaethau a chysondeb".

"Pam bod y corau yn meddwl bo' nhw'n well na phawb?" meddai.

Adroddiad Dafydd Evans.