Rhoi gwrthfiotigau i blentyn 10 mis oed yn 'lot i ofyn'
Dywedwyd wrth fam am wasgu tabledi gwrthfiotig yn fân ar gyfer ei merch 10 mis oed gan nad oedd fersiynau hylif ar gael ar gyfer plant.
Cafodd babi Catrin Edwards ddiagnosis o'r dwymyn goch a achoswyd gan Strep A ym mis Rhagfyr, a rhoddwyd presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau iddi.
Fodd bynnag, dywedodd y fam 29 oed o Ffynnon Taf, Caerdydd, nad oedd unrhyw wrthfiotigau i blant ar gael.
Dywedodd Mrs Edwards wrth y BBC ei bod hi wedi rhoi'r tabledi i'w merch drwy eu hymdoddi mewn llaeth y fron neu sudd afal, ond bod hynny wedi cymryd "amser hir" a'i fod yn "frawychus".
"Ro'n i'n teimlo fel fferyllydd fy hun - roedd yn rhaid i mi dorri'r tabledi i fyny, eu malu ac yna bwydo hynny iddi bedair gwaith y dydd," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gwybod a oeddwn i'n rhoi'r swm cywir iddi."