Canser: Stori Mary Grice Woods o Aberystwyth

Yn 12 oed fe gafodd Mary Grice Woods o Aberystwyth ddiagnosis o ganser yr ofari, ac yn fuan wedyn cafodd wybod na fyddai hi'n gallu cael plant yn naturiol.

Wedi 10 mlynedd "o gladdu yr hyn ddigwyddodd", mae hi bellach yn awyddus i rannu ei phrofiad er mwyn codi ymwybyddiaeth.

"Am flynyddoedd ro'n i methu siarad â phobl am y profiad," meddai.

"O'n i bach yn embarrassed... o'n i ddim eisiau i bobl wybod - jyst eisiau cario 'mlaen 'da bywyd fi fel o'dd e heb ddigwydd," meddai.

Mae'n gobeithio bydd ei stori yn helpu eraill.