Prisiau hufen iâ: Fyddech chi'n fodlon talu mwy?

Yn ôl cynhyrchwyr hufen iâ mae cynnydd yng nghostau cynhwysion a chynhyrchu yn gwneud y diwydiant yn "galetach nag erioed".

Ac mae pryder y bydd hyn yn golygu y bydd llai o flasau hufen iâ eleni, gyda'r blasau "traddodiadol" yn unig ar gael i gwsmeriaid.

Trigolion Aberaeron fu'n rhannu eu barn am brisiau hufen iâ.

"Pan mae'r haul mas a'r awyr yn las, does dim byd gwell na hufen iâ," meddai un.

Ond mae rhai yn poeni y byddai prisiau uwch yn ei gwneud yn anoddach i deuluoedd ei fwynhau.