Yr Orsedd 2023: 'Mae Mam yn fwy prowd o hwn na'r Bafta'

Mae'n "arbennig iawn" i gael bod yn rhan o'r Orsedd, yn ôl cynhyrchydd teledu blaenllaw sydd ymhlith y 50 o bobl ar restr gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun.

Bydd Sioned Wyn o Gricieth yn cael ei hanrhydeddu i'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni, a hynny am ei chyfraniad i Gymru a'r iaith.

Mae'n rhedeg Cwmni Teledu Chwarel ac mae wedi ennill gwobrau BAFTA, RTS a Broadcast am ei gwaith.

Ond wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd fod ei mam yn fwy balch ei bod yn cael ei derbyn i'r Orsedd na'i bod wedi ennill Bafta.