BBC Cymru 100: Siân Phillips yn actores ifanc

Mae'r Fonesig Siân Phillips yn 90 oed ar y 14eg o Fai 2023. Fe'i ganwyd yng Ngwaun Cae Gurwen cyn symud i Gwm Tawe, adechreuodd ei gyrfa actio yn 11 oed gyda'r BBC. Aeth yn ei blaen i fynychu RADA (Royal Academy of Dramatic Arts) yn Llundain yn 1955 - yr un amser â Diana Rigg a Glenda Jackson. Dyma glip ohoni'n actores ifanc yn Llundain yn 1958 ar y rhaglen Cefndir.

Ymunwch â chriw Bore Cothi bob dydd Iau rhwng 11:00 ac 13:00 lle fydd Hywel Gwynfryn yn mynd drwy'r archif.