Profiad Rhian Thomas o fynd drwy'r sector ofal fel plentyn

Mae Rhian Thomas, 21, yn un sydd wedi profi bywyd o fewn y sector ofal yng Nghymru.

Bu'n byw gyda theuluoedd maeth ers yn chwech oed ar ôl cael ei cham-drin a'i hesgeuluso gan ei theulu, ac fe gafodd ei symud o un cartref i'r llall, yr un o'r rheiny yn gartref Cymraeg.

Fe adawodd hi'r system ofal pan oedd hi'n 18 oed ac roedd hi'n ddigartref am chwe mis, "yn byw mewn B&B", cyn symud i ganolfan gymorth.

Erbyn hyn mae'n byw yn Sir Gaerfyrddin gyda dynes roedd hi wedi'i chyfarfod mewn lloches, ac sydd "fel mam" iddi.

Daw hyn wrth i adroddiad gan bwyllgor Senedd Cymru alw am wneud mwy i helpu pobl ifanc sy'n gadael y sector gofal.

Fe wnaethon nhw ganfod bod bron i chwarter y plant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn ddigartref erbyn eu bod yn 18 oed.