Wyn Jones eisiau gweld mwy yn aros yng nghefn gwlad
Mae Llywydd dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd wedi croesawu ymweliad yr ŵyl i'w fro enedigol.
Yn ôl Wyn Jones, sy'n un o hoelion wyth rheng flaen y Scarlets a Chymru, mae'n "golygu lot" i bobl Llanymddyfri allu gwahodd Cymry ben baladr i'r ardal.
Fel un sydd wedi aros yn yr ardal, ond sydd wedi gweld llawer o bobl ifanc yn gadael i'r dinasoedd, dywedodd ei fod yn "ffodus iawn" i fod wedi gallu gwneud hynny.
Ychwanegodd: "Rwy'n deall bod rhai pobl yn gorfod symud am waith, ond byddai'n neis iawn gweld mwy o bobl yn gallu sefyll yng nghefn gwlad Cymru."
Un o enwogion arall yr ardal, y cyflwynydd teledu Alex Jones, oedd Llywydd y Dydd ar gyfer dydd Llun.