Dona Lewis: 'Mae croeso i bawb ddysgu Cymraeg'
Mae Dona Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi croesawu'r cyfle i gydweithio gyda'r Urdd ar bartneriaeth newydd.
Bydd y ddau fudiad yn gweithio ar raglen hyfforddiant dysgu Cymraeg newydd, er mwyn cefnogi nod yr Urdd o ddenu gweithlu amrywiol, ac i gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd.
Fel rhan o hynny bydd tiwtor yn gweithio gyda'r Adran Chwaraeon, Prentisiaethau a'r Gwersylloedd i ddarparu gwersi i aelodau staff sydd ddim yn siarad llawer o Gymraeg, neu sy'n llai hyderus eu sgiliau Cymraeg.
"Mae'r ganolfan yn agor croeso i bawb i ddysgu Cymraeg ac mae e'n hollbwysig bod ni'n gweithio gyda sefydliadau, gyda sectorau gwahanol ac yn teilwra'r cynnig o ddysgu Cymraeg iddyn nhw," meddai Dona Lewis.