Annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli yn yr eisteddfod

Mae saith o wirfoddolwyr Eisteddfod yr Urdd wedi cael eu hanrhydeddu fel Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd 2023.

Dau o'r rhain oedd Peter ac Eryl Harries, o Salem ger Llandeilo.

Dywedodd y ddau ei fod yn fraint cael eu dewis ac maen nhw'n annog eraill i ymuno fel stiwardiaid.

"Dwi am annog y bobl ifanc i ddod i fewn," dywedodd Mr Harries.

"A'r bwriad falle wrth fynd o steddfod i steddfod fod rhai o'r stiwardiaid sydd gyda ni yn mwynhau'r profiad ac felly yn ymuno gyda ni fel uwch stiwardiaid i'r dyfodol."

Mae'r pâr yn aelodau sefydlog o dîm uwch stiwardiaid yr eisteddfod ac maen nhw wedi teithio ar draws Cymru gyda'r ŵyl.

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau fod y saith gwirfoddolwr wedi "creu cyfleoedd a dylanwadu ar genedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru".

Gyda chyfanswm o dros 200 flwyddyn o wirfoddoli rhyngddynt, y saith a gafodd eu hanrhydeddu oedd: Gill a Gwynfor Davies, Hilary Davies, Jennifer Maloney, Peter ac Eryl Harries, a Tom Defis.