BBC Cymru 100: Y Cymry cyntaf yn cyrraedd y Wladfa

Roedd tad Joseph Jones yn un o'r ymfudwyr cyntaf i gyrraedd y Wladfa yn 1865 wedi iddynt hwylio yno ar y Mimosa. Yn y clip hwn o'r rhaglen Y Gymru Bell yn 1962 mae'n sôn am y caledi wynebodd ei dad a'r Cymry rheiny a ddechreuodd eu bywydau newydd ym Mhatagonia.

Hywel Gwynfryn sy'n tyrchu drwy archif y BBC bob bore dydd Iau ar Bore Cothi.