Chwiorydd o Afghanistan yn mwynhau ar y maes
Mae Nagris a Shirin, dwy chwaer o Afghanistan, ymhlith y rheiny sydd wedi bod yn mwynhau ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.
Fe wnaethon nhw ymgartrefu yng Nghymru gyda'u rhieni a'u brodyr, Hojatullah ac Amir Ali, ar ôl ffoi o'u mamwlad yn dilyn y trafferthion yno.
Ac fe gafodd y teulu ddiwrnod digon prysur ar y maes, gan gynnwys cyfarfod y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Roedd yn gyfle hefyd iddyn nhw ymarfer ychydig o'u Cymraeg - a chanu un o'u hoff ganeuon!