'Dim cyfleusterau newid anabl i ni ar faes yr Urdd'

Mae mam i ferch o Sir Gaerfyrddin sydd ag anabledd yn dweud nad yw cyfleusterau maes Eisteddfod yr Urdd yn ddigon da.

Fe aeth Vanessa Rumsby o Landdarog â'i merch 18 oed, Hannah sy'n defnyddio cadair olwyn, i'r ŵyl yn Llanymddyfri ddydd Mercher.

Roedd yn rhaid i'r teulu ofyn am help gan elusen cymorth cyntaf St John i newid Hannah gan nad oedd "unman i gael".

Fe wnaeth llefarydd ar ran yr Urdd ymddiheuro ar ôl clywed am brofiad y teulu.