'Ddim yn deall' beirniadaeth o ardal LHDTC+ yr Urdd

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'n "deall" pam fod rhai pobl eisiau beirniadu'r Urdd am eu gwaith ym maes LHDTC+.

Roedd Jeremy Miles yn ymateb wedi i rai pobl ar-lein feirniadu'r mudiad am sefydlu ardal LHDTC+ o'r enw Cwiar Na Nog ar faes yr eisteddfod ieuenctid yn Llanymddyfri eleni.

Dywedodd yr Urdd fod y "sylwadau sarhaus ac eithafol a rannwyd gan rai unigolion... yn siomedig tu hwnt".

Roedd beirniadaeth hefyd fod bathodynnau rhagenw ar gael o safle Cwiar Na Nog, ond mae'r gweinidog yn un o'r rheiny sydd yn cefnogi safbwynt yr Urdd.

"Os 'dych chi eisiau gwisgo bathodyn, gwisgwch un," meddai Mr Miles. "Ac os nad ydych chi eisiau gwisgo bathodyn, peidiwch."