Ardal LHDTC+ yr Urdd: Y farn o'r maes
Mae prif weithredwr yr Urdd wedi dweud bod beirniadaeth gan rai o ardal LHDTC+ ar faes yr eisteddfod ieuenctid yn "gwbl warthus".
Eleni am y tro cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd, cafodd ardal Cwiar Na Nog ei sefydlu er mwyn dathlu a chynnig cyfle i ddysgu mwy am y gymuned cwiar yng Nghymru.
Mae'r babell liwgar wedi ei dynodi fel "lle saff" gan yr Urdd i blant a phobl ifanc gymdeithasu, rhwydweithio a dysgu mwy am eu hunaniaeth drwy'r iaith Gymraeg.
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau, mae Cwiar Na Nog hefyd yn gwerthu bathodynnau rhagenwau.
Mae'r trafod yn frwd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond beth ydy'r farn ar y maes?