Cyfraniad 'cwbl unigryw' Yr Arglwydd Morris at ddatganoli

Yn 91 oed bu farw'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr, yr Arglwydd John Morris.

Bu gyrfa wleidyddol John Morris yn un hir a nodedig - fe dreuliodd dros 60 mlynedd yng nghoridorau pŵer San Steffan.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod yr Arglwydd Morris wedi bod "yn gyson o blaid ymreolaeth bellach i Gymru."

A theimla'r Arglwydd Elis-Thomas fod ei gyfraniad i ddatganoli wedi bod yn "gwbl unigryw".

"Oedd ei gefndir o a'i wreiddiau fo yng Ngheredigion," ychwanegodd.

Roedd yr Arglwydd Morris yn gredwr mawr mewn datganoli grym, yn benodol i Gymru, ond roedd hefyd yn wrthwynebydd cryf i annibyniaeth.

Roedd yn un o'r ychydig aelodau seneddol i wasanaethu tri Phrif Weinidog Llafur - Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair - ac wrth ei gofio, dywedodd Mr Blair bod gyrfa'r Arglwydd Morris wedi bod yn "ddigynsail".