Profiad o unigrwydd: "Medrwn i ddim egluro i bobl"

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi rhybuddio bod yr argyfwng costau byw yn 'gwaethygu unigrwydd' pobl hŷn ac maent yn galw am weithredu i "greu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol".

Un sydd wedi profi'r fath unigrwydd yw Glenys Williams a fu'n siarad am ei phrofiadau yn ystod y pandemig.

Pan fu farw ei gŵr, Cled, dywedodd Ms Williams: "Doedd rhai ddim yn gwybod bod fi wedi colli Cled.

"Oedd gen i gymdogion heb eu hail, ond gen i ddim ffrindiau medrwn i droi mewn am banad," ychwanegodd.

Ac mae'n cofio iddi deimlo'n unig tra'n gofalu am Cled gan ddweud: "O'dd pawb yn gofyn 'Sut ma' Cled?' Odd na neb eisiau gwybod am y gofalwr.

"Medrwn i ddim egluro'r unigrwydd i bobl."

Mae Ms Williams nawr yn mynd yn rheolaidd i ddigwyddiad 'Llond Bol' ym Mhenygroes yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd.

Mae 'Llond Bol' yn fenter gymunedol sy'n cynnig pryd o fwyd wythnosol am ddim.

Ond i Ms Williams mae'n gyfle iddi gwrdd efo ffrindiau a sgwrsio.

"Dwi wrth fy modd," dywedodd.