'Roedd cael strôc yn erchyll a ches i ddim help'
Mae merch o Rydaman a wnaeth ddioddef strôc yn ei hugeiniau cynnar yn galw am fwy o help ar gyfer pobl ifanc sydd wedi dioddef o'r cyflwr.
Yn 2019 fe gafodd Nia Phillips, sydd bellach yn 24, strôc a wnaeth ei bywyd.
Dywed Llywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Strôc bod cymorth ar gael i oroeswyr strôc ifanc i ailadeiladu eu bywydau ond yn ôl Ms Phillips mae'r cymorth wedi ei deilwra'n bennaf ar gyfer pobl hŷn.
Byddai cael unrhyw wybodaeth a chefnogaeth wedi bod o gymorth, meddai.