Mwg yn codi o dân mewn parc natur yn Aberystwyth

Mae pobl yn Aberystwyth wedi cael eu symud o'u fflatiau yn dilyn tân mewn parc natur gerllaw brynhawn Gwener.

Roedd mwg a fflamau i'w gweld yn codi o ardal Parc Natur Penglais ar gyrion y dref am tua 16:50.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw, gydag 20 o swyddogion a phedwar cerbyd yn mynychu'r digwyddiad.

Dywedodd heddlu Dyfed Powys fod Heol yr Ysbyty, sydd yn agos i'r parc, ar gau.

"All pawb sy'n byw yn lleol gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau os gwelwch yn dda, tra bod y gwasanaethau brys yn delio gyda'r digwyddiad a'i wneud yn saff," meddai'r llu.

"Diolch am eich cydweithrediad."