O Gymru i'r Gambia: Gwaith Cymraes i leihau gwastraff

Mae Dr Rebecca Colley-Jones yn arbenigo ar yr economi gylchol ac mae'n un o arweinwyr prosiectau WasteAid.

Mae wedi bod yn gweithio gydag entrepreneuriaid a phobl leol yn y Gambia er mwyn eu haddysgu a'u hannog i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau fel plastig.

Dywedodd eu bod yn ceisio creu marchnadoedd newydd a chyfleoedd gwaith yn seiliedig ar ailgylchu.

Yn ogystal â gweithio gydag entrepreneuriaid, fel rhan o'i phrosiect bu'n addysgu menywod lleol am sut i ddefnyddio gweddillion cnau coco er mwyn creu siarcol.

Dywedodd bod hyn yn "creu incwm ychwanegol iddyn nhw a hefyd yn stopio gorfod torri lawr coed".