Gemau Olympaidd Arbennig: 'Dyw e ddim am y medalau'

Draw yn y Waun, Wrecsam, mae Michael Beynon a’i deulu’n paratoi am gyfnod prysur yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd Arbennig.

Bydd Michael, 27, yn bartner i Llinos Gilmore-Jones yn y bocce - a’i fam, Erika Walker, yn hyfforddwr bocce ar gyfer Tîm Prydain.

Yn ôl Erika, fe fydd hi’n “nerfus” dros ei mab a’r athletwyr eraill fydd yn cystadlu.

“Fi’n credu beth yw e yn y Special Olympics yw bod yr athletes yn cystadlu ar y lefel maen nhw’n gallu,” meddai.

“Ac os maen nhw’n gallu cael PB [personal best] ar y dydd neu ar yr wythnos maen nhw bant ac ym mhob gêm maen nhw’n whare, dyna chi’n disgwyl amdano, dim medalau."