BBC Cymru 100: Yr hyn a ysbrydolodd Caradog Prichard

Cafodd y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard ei chyhoeddi yn 1961. Ers hynny, mae wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd, wedi'i haddasu'n ffilm, yn ddrama lwyfan a nawr yn ddrama radio.

Yn y clip hwn o'r rhaglen Heddiw, gwelwn yr awdur yn siarad gyda Geraint Wyn Davies yn ei gartref yn 1973 am y digwyddiadau allweddol yn ei fywyd sy'n ddylanwad drwy ei holl waith llenyddol. Y digwyddiad allweddol oedd gorfod mynd â'i fam i ysbyty iechyd meddwl pan roedd o'n llanc ifanc. Mae'n bosib mai yn Un Nos Ola Leuad y gwelir y dylanwad yna gryfaf.

Un o'r pethau nodweddiadol eraill am Un Nos Ola Leuad yw'r dafodiaith gref sydd drwyddi. Gallai darllen y dafodiaith hon fod yn her i sawl un sy'n anghyfarwydd â hi, heb sôn am fynd ati i'w chyfieithu. Yn 1973 yr awdures Menna Gallie gafodd yr her honno ac yn y clip hwn hefyd, mae'n egluro sut aeth hi ati.

Mae'r ddrama radio Un Nos Ola Leuad ar gael nawr ar BBC Sounds.

Bydd Hywel Gwynfryn yn dewis clip o'r archif bob dydd Iau ar Bore Cothi.