Beth fydd blaenoriaethau arweinydd newydd Plaid Cymru?
Mae disgwyl i aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau fel arweinydd newydd Plaid Cymru ddydd Gwener.
Mae'r enwebiadau ar gyfer y swydd yn cau, ac nid oes unrhyw aelod arall o grŵp Senedd Cymru y blaid wedi sefyll yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Mae'r blaid wedi bod yn chwilio am arweinydd newydd ers i Adam Price ildio'r awenau ym mis Mai.
Ymddiswyddodd Mr Price yn dilyn adroddiadau bod diwylliant gwenwynig o aflonyddu, bwlio a chasineb at ferched wedi gwaethygu o dan ei arweiniad.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Gwener dywedodd cyn-Aelod Seneddol y blaid, Elfyn Llwyd, mai mynd i'r afael â'r hynny fydd prif flaenoriaeth yr arweinydd newydd.
Dywedodd mai'r dasg i Blaid Cymru ydy "newid ei diwylliant a'r ffyrdd maen nhw'n gweithredu".