URC: Dynion wedi defnyddio pŵer yn erbyn menywod
Mae'r AS Delyth Jewell, cadeirydd Pwyllgor Chwaraeon y Senedd, wedi galw ar Undeb Rygbi Cymru (URC) i gyhoeddi "cynllun clir" yn esbonio sut maent yn mynd i weithredu ar argymhellion tasglu annibynnol.
Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Ms Jewell: "Mae 'na bethau i'w croesawu ynglŷn â beth mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud ers i'r cyhuddiadau 'na ddod i'r amlwg.
"Ond ni angen gwneud yn siŵr bod yr undeb yn gweithredu ar yr argymhellion ma' adolygiad Dame Anne Rafferty yn eu gwneud.
"Bydd disgwyl i'r undeb i ddod o flaen ni fel pwyllgor pan mae'r adolygiad hynny'n cael ei gyhoeddi ac rydyn ni hefyd yn galw arnyn nhw i gyhoeddi cynllun clir yn gosod mas sut maen nhw'n mynd i neud yn siŵr fod yr argymhellion yn cael eu gweithredu."
Cafodd rhannau o adolygiad annibynnol 2021 - oedd heb ei weld o'r blaen - eu cyhoeddi fel rhan o adroddiad y Senedd i'r achos a ddaeth i'r casgliad "bod methiannau systematig yn niwylliant URC".
Yn ôl yr adroddiad a ysgrifennwyd cyn i honiadau o rywiaeth gael eu datgelu gan BBC Cymru, mae'n bosib bod chwaraewyr rygbi benywaidd wedi profi "enghreifftiau pryderus" o "driniaeth anffafriol".
Dywedodd URC: "Ry'n ni eisoes wedi derbyn... bod gennym lawer o waith i'w wneud er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â methiannau'r gorffennol ac unwaith eto yn ymddiheuro'n ddiffuant am y cyfleoedd a gollwyd ac i unrhyw un sydd wedi'i effeithio.