Cymuned Dawnsfa Cymru 'yn cynnig rhywbeth i bawb'

Mae Malori yn rhan o Gymuned Dawnsfa Cymru - cymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd sy'n dathlu dawns, cerddoriaeth a chreadigrwydd.

Yn ôl sefydlydd y gymuned "mae'r gymuned dawnsfa yn is-ddiwylliant tanddaearol oedd wedi ei chreu gan fenywod traws o liw a phobl o liw LHDTC+ yn Efrog Newydd yn y 70au".

Dywedodd Malori, sy'n aelod traws o'r gymuned, wrth BBC Cymru: "Mae'r ddawnsfa yn cynnig allanfa wahanol i bobl cwiar."

Yn debyg i basiant, mae'r cystadleuwyr yn perfformio o flaen beirniaid, gydag unigolion yn perthyn i dai gwahanol wrth gystadlu.

"Mae 'na lot o categories... mae 'na rywbeth i unrhyw un," dywedodd Malori.