'Her wych' lansio mapiau cerdded Cymraeg a Gaeleg

Mae map o lwybrau cerdded yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi ei lansio gan ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg a Gaeleg yr Alban.

Mudiad Slow Ways sydd tu ôl i'r prosiect, sydd â'r nod o gydnabod yr hanes sydd wrth wraidd pob enw.

Fe gafodd y mudiad ei sefydlu yn ystod y cyfnod clo yn 2020 i dynnu sylw at lwybrau hygyrch.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd swyddog diwylliant y mudiad, Hannah Engelkamp, fod y prosiect wedi bod yn "her wych".