Tŷ Gobaith: "Mae'r gofal yno unrhyw dro 'dan ni isio fo'

Mae nifer y plant yng Nghymru sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu eu bywydau wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, medd elusennau.

Yn ôl adroddiad gan hosbisau Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, mae data 2009-2019 yn awgrymu bod 'na gynnydd o bron i chwarter, gyda dros 3,000 o fabanod a phlant yng Nghymru yn byw gyda chyflyrau o'r fath yn 2019.

Mae Nerys Davies o Lanrwst yn fam i Bedwyr, bachgen wyth oed sy'n byw gyda'r cyflwr prin Coffin-Siris.

"Mae Tŷ Gobaith yn rhoi hwb mawr i ni. Ni'n gwybod bod o'n saff yno.

"Cyn heddiw dwi wedi ffonio nhw ben bore yn beichio crio yn poeni. Mae'r cyngor 'na ar gael i rywun dydd a nos."