Rhydaman i Anfield: Cerdded i gofio ffrind ysbrydoledig

Mae criw o ffrindiau o'r gorllewin ar fin cychwyn her i godi arian er cof am gyfaill a fu farw yn dilyn brwydr yn erbyn leukaemia.

Gan gychwyn ddydd Sadwrn, bwriad y criw yw cerdded yr holl ffordd o Rydaman i Lerpwl, sef taith o 160 milltir mewn wythnos.

Roedd Ryan Davies yn 22 oed pan gafodd ddiagnosis o fath prin o leukaemia.

Wedi brwydro am ddegawd, bu farw yn Nhachwedd 2016 - ychydig wythnosau cyn ei ben-blwydd yn 33 oed.

Yn ystod ei driniaeth fe sefydlodd elusen o'r enw Ryan4Leukaemia, a oedd yn caniatáu iddo helpu eraill mewn sefyllfa debyg iddo'i hun.

Ers ei farwolaeth mae miloedd o bunnau wedi'u dosbarthu i deuluoedd sy'n mynd trwy driniaeth leukaemia i helpu gyda chostau teithio a thriniaethau nad ydynt ar gael ar y GIG.

Gyda Ryan yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Lerpwl, dywedodd ei ffrindiau fod cerdded i Anfield, sef cartref y clwb, yn rhywbeth fyddai wedi ei werthfawrogi.

Yn ôl Craig Maloney, un o ffrindiau Ryan, y bwriad yw cerdded tua 20 milltir y dydd a chwblhau'r daith mewn saith diwrnod.

"Roedd pawb yn hoffi bod gyda Ryan, roedd yn ffrind i bawb really," meddai.

"O'dd gwen ar ei wyneb drwy'r amser... roedd e'n fachgen sbesial iawn i fod yn onest."