Virgina Crosbie: Beth yw barn y cyhoedd ar Ynys Môn?

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn wedi ymddiheuro am fynychu digwyddiad yn Llundain yn ystod cyfyngiadau Covid.

Mewn datganiad fe wnaeth Virginia Crosbie ymateb i "adroddiadau" am ddigwyddiad gafodd ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2020.

Cadarnhaodd Ms Crosbie fod y digwyddiad wedi'i gynnal a'i bod hi wedi mynychu, ond dywedodd nad oedd hi wedi anfon unrhyw wahoddiad.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Ms Crosbie i gyfeirio ei hun at Heddlu Llundain ac at Gomisiynydd Safonau San Steffan.

Cymysg oedd y farn ymhlith trigolion ei hetholaeth ddydd Mawrth, gyda'r mwyafrif i weld yn awyddus i symud ymlaen o drafod gwleidyddion a rheolau Covid.