BBC Cymru 100: Beth yw'r cysylltiad rhwng Tryweryn a Gentian?
Hywel Gwynfryn aeth draw i lannau'r afon Tees i ddarganfod hanes y planhigyn Gentian a'i gysylltiad gyda'r digwyddiadau yng Nghapel Celyn yn y 1960au.
Roedd y gentian, ynghyd â blodau eraill wedi goroesi ar lannau'r Tees ers oes yr iâ - yr unig le ym Mhrydain lle mae'r gentian yn blodeuo. Pan awgrymwyd codi cronfa ddŵr yno fe ddaeth y gwrthwynebiad gan bobl yn Lloegr oedd am warchod y planhigyn hwn.
Gallwch glywed atgofion Hywel am ei drip i lannau'r Tees ar y bennod hon o Bore Cothi.