Ren Gill: 'Mae angen siarad mwy am iechyd meddwl'
Mae angen trafodaethau mwy agored am iechyd meddwl ac atal hunanladdiad medd canwr poblogaidd o Ynys Môn.
Yn dilyn hunanladdiad ei ffrind gorau Joe Hughes, yn 19 mlwydd oed yn 2010, mae Ren Gill, o Ddwyran, yn dweud ei fod wedi cael ei sbarduno i siarad am y mater gan ddefnyddio'i ddoniau cyfansoddi i rannu ei neges.
Mae caneuon Ren wedi cael eu ffrydio dros 20 miliwn o weithiau ar-lein a gyda chefnogaeth ei holl gefnogwyr mae hefyd wedi codi £21,000 ar gyfer Gwylwyr y Glannau (RNLI) er cof am ei ffrind.
Dywedodd Ren ei fod yn teimlo nad oes digon o drafodaeth am atal hunan niwed a hunanladdiad.
"Rwy'n meddwl ein bod ni'n byw mewn byd sydd wedi'i or-sensiteiddio ac weithiau mae'r pethau hyn yn cael eu cuddio er cysur pawb arall."
Yn y gân Suic!de, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, mae Ren yn talu teyrnged i'w ffrind.
"Roedden i mewn dagrau, chi'n gallu ei glywed ar y record, roedden i mewn dagrau wrth ei recordio - ond doedden i ddim am newid unrhyw ddarn ohono," dywedodd.
Mae Ren hefyd wedi bod yn codi arian ar gyfer yr RNLI er mwyn diolch yr elusen am eu hymdrechion pan aeth ei ffrind ar goll.
Dywedodd: "Dwi'n cofio'r ymateb - pa mor gyflym cyrhaeddodd yr RNLI.
"Mae hwn yn sefydliad sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, mae'r rhain yn bobl sy'n codi o'u gwelyau - ddim ar gyflog ond yn ei wneud oherwydd eu bod eisiau helpu."
Ddydd Mawrth fe deithiodd Ren i Fiwmares er mwyn cwrdd â chriw'r RNLI a chyflwyno siec o £21,000 iddynt.
Ychwanegodd Ren: "Os oedden i'n mynd i roi neges i unrhywun sydd mewn lle tywyll iawn, sy'n teimlo eu bod methu dianc, weithiau mae pethau'n digwydd byddech chi byth yn eu disgwyl sy'n ei wneud gwerth dala ymlaen.