Cwpan Rygbi'r Byd: 'Sai'n cofio fe mor galed â hyn'

Mae paratoadau carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn yr hydref eisoes wedi dechrau, gyda'r garfan wedi bod yn hyfforddi ym Mro Morgannwg ers rhai wythnosau cyn teithio i'r Swistr yr wythnos nesaf.

Un sydd wedi bod yn rhan o'r paratoadau hynny ydy'r mewnwr Gareth Davies, sy'n gobeithio mynd i Gwpan y Byd am y trydydd tro.

Yn sgil ymddeoliad Rhys Webb, mae Davies - gyda Tomos Williams a Kieran Hardy - yn un o dri mewnwr sydd ar ôl yn y garfan, ac mae disgwyl i Gymru gymryd y tri i Ffrainc yn yr hydref.

Dywedodd Davies fod y "mis cynta' wedi bod yn galed", a bod y chwaraewyr yn cael eu gwthio i'r eithaf er mwyn bod yn barod i herio timau gorau'r byd.