Diagnosis canser: 'Sut o'n i am ddweud wrth fy merch?'

Fe gafodd Hollie McFarlane o Wrecsam ddiagnosis o ganser y fron fis Hydref y llynedd.

Er mwyn helpu esbonio i'w merch beth oedd yn bod fe aeth y fam 43 oed ati i ysgrifennu llyfr yn y Gymraeg a'r Saesneg - Weithiau mae Mam yn Teimlo.

Bellach wedi cael gwybod bod y canser wedi diflannu, bydd Hollie - sy'n gweithio fel athrawes Saesneg a Drama - nawr yn derbyn triniaeth radiotherapi i geisio sicrhau na fydd yn dychwelyd.

"O'n i wedi cael y diagnosis ym mys Hydref a'r peth cyntaf nes i feddwl oedd sut i ddweud wrth Sydney, oedd yn dair ar y pryd," medd Hollie ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Roedd y nyrsys yn Wrecsam Maelor yn ffantastig. Mi oedd 'na lyfr ar gael i ddarllen hefo plant ond o'n i'n meddwl 'dydi hwn rili ddim yn addas ar gyfer rhywun oedran Sydney' - roedd yn fwy addas i blant hŷn.

"Wnes i feddwl, yn lle achwyn, faswn yn ysgrifennu llyfr fy hun."

Ychwanegodd Hollie, sy'n wreiddiol o Bwllheli: "Roedd yn bwysig i mi beidio defnyddio geirfa i wneud hefo canser. Dwi'n meddwl fod Sydney yn rhy ifanc i wybod dim am y byd yna.

"Dwi wedi defnyddio'r emosiynau a'r teimladau oeddwn i'n deimlo ar y pryd ac ysgrifennu'r llyfr o safbwynt Sydney fel bod hi'n gallu relatio hefo'r llyfr."

Bydd fersiwn Cymraeg y llyfr yn cael ei ryddhau yr wythnos hon.