A fyddech chi'n cysgu 1,000 o droedfeddi dan ddaear?

Profiad tra gwahanol i'r arfer sydd ar gynnig wrth aros yn un o'r gwestai diweddaraf i agor yn ardal Blaenau Ffestiniog.

Caban neu groto rhyw 1,375 troedfedd dan ddaear yw'r dewis i westai gwesty Deep Sleep, ar safle hen chwareli lechi Fictoraidd Cwmorthin ger pentref Tanygrisiau.

Cyn cyrraedd y llety, rhaid cerdded am ryw dri chwarter awr i fyny i'r mynyddoedd, cyn cael yr offer diogelwch angenrheidiol ar gyfer mentro i'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio'n "chwarel lechi adawedig fwyaf a dyfnaf y byd".

Mae'r daith honno hefyd â'i heriau, ond mae staff arbenigol wrth law i'w tywys ac yn aros mewn caban ar wahân dros nos i hebrwng pawb allan o'r tywyllwch yn y bore.

Gobaith y cwmni Go Below yw y bydd yr atyniad diweddaraf yma yn hwb arall i dwristiaeth ac economi'r ardal.