Rhannu dyddiad geni'r GIG: 'Mae o am ddim o heddiw ymlaen'
Mae Ifora Owen yn perthyn i glwb eithaf unigryw.
Mae hi ymhlith y bobl a gafodd eu geni ar ddiwrnod cyntaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 75 mlynedd yn ôl.
Dywed y cyn-brifathrawes o Sir Conwy na fu'n rhaid defnyddio'r gwasanaeth gymaint â hynny dros y blynyddoedd, ond bod y gwasanaeth wastad "wedi bod yno" pan fo angen.
Ac roedd amseriad ei genedigaeth yn ffodus iawn, gan arbed "swllt a chwech mewn hen bres" i'w rhieni.