Hannah Dingley yn 'ysbrydoliaeth' i ferched ifanc

Mae Cymraes 39 oed wedi creu darn bach o hanes pêl-droed.

Hannah Dingley o Lansteffan ger Caerfyrddin yw'r fenyw gyntaf i reoli tîm dynion yng nghynghrair bêl-droed Lloegr.

Mae'n cymryd yr awennau dros-dro fel prif hyfforddwr Forest Green Rovers, sydd yn Adran Dau gyda Chasnewydd a Wrecsam.

Owain Evans fu'n olrhain rhywfaint o'i hanes ar gyfer rhaglen Newyddion S4C.