Gemau'r Ynysoedd: 'Anhygoel gallu cynrychioli'r ynys'

Mae 120 o athletwyr o Fôn yn teithio i Guernsey dros y penwythnos i gystadlu yn y "Gemau Olympaidd i ynysoedd".

Yr ynys yng nghanol y Môr Udd fydd yn cynnal Gemau'r Ynysoedd eleni wrth i 24 o dimau gymryd rhan mewn 14 o gampau a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu cynnal ers y pandemig.

Gyda'r gemau yn dod i Fôn yn 2027, mae'r Monwysion hefyd gydag un llygad ar y paratoadau yn Guernsey cyn y seremoni agoriadol nos Sadwrn.

Mae'r gemau yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ac mae disgwyl i tua 3,000 o athletwyr gymryd rhan eleni.

Yr athletwyr Tudur Williams a Teleri Sion Lewis Jones fu'n siarad gyda Cymru Fyw cyn i'r ddau fynd i Gemau'r Ynysoedd am y tro cyntaf.