Johnny Depp yn ymweld â chartref y bardd Dylan Thomas
Roedd yr actor Americanaidd Johnny Depp yng Nghymru dros y penwythnos er mwyn perfformio yn Arena Abertawe nos Wener gyda'i grŵp Hollywood Vampires.
Mae gan yr actor, sy'n adnabyddus am ei rannau mewn ffilmiau Pirates of the Caribbean, Edward Scissorhands a Charlie and the Chocolate Factory, diddordeb mawr ers yn ifanc yng ngwaith Dylan Thomas.
Ac roedd yn awyddus iawn i geisio ymweld â man geni'r bardd chwedlonol, yn ardal Pantygwydr y ddinas, tra'i fod yn yr ardal.
Fe gafodd 5 Cwmdonkin Drive ei adfer yn 2005 i sut y byddai wedi edrych pan roedd Thomas ei hun yn byw yno.
Ymysg y gwirfoddolwyr a fu'n ei dywys drwy ystafelloedd y tŷ roedd y darlledwr a'r awdur Alun Gibbard.
Fel y dywedodd wrth raglen Dros Frecwast, fe ddaeth yn amlwg yn syth pa mor angerddol yw'r actor am waith Dylan Thomas.
Mae hefyd yn gwrando'n rheolaidd ar recordiad Cymro arall a ddaeth yn adnabyddus ar draws y byd, Richard Burton, o waith enwocaf Thomas, Under Milk Wood - er mwyn ei helpu i ymlacio a chysgu!