Huw Edwards yn 'ddyn cryf' all ddod dros honiadau

Mae ffrind i Huw Edwards wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod y cyflwynydd yn "ddyn cryf" all ddod dros ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf.

Papur newydd The Sun wnaeth honni'n wreiddiol ei fod wedi talu degau o filoedd o bunnau i berson ifanc am luniau o natur rywiol.

Ers hynny mae sawl honiad arall wedi'i wneud yn ei erbyn.

Mewn datganiad nos Fercher, gwraig Huw Edwards ddatgelodd pwy oedd y cyflwynydd yng nghanol storm straeon yr wythnos ddiwethaf.

Tra bod ymchwiliad y BBC wedi ail-gychwyn, mae'r Cymro yn yr ysbyty yn cael triniaeth am broblemau iechyd meddwl difrifol.

Adroddiad Huw Thomas i raglen Newyddion S4C.