Gŵyl Tafwyl Caerdydd yn 'groesawgar yn y Gymraeg'
Bydd Tafwyl yn cael ei chynnal ym Mharc Bute y penwythnos hwn, wrth i'r ŵyl gerddorol symud lleoliad o Gastell Caerdydd.
Fe fydd yr ŵyl hefyd yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C am y tro cyntaf eleni.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd cydlynydd yr ŵyl Gwenno Roberts fod y trefnwyr yn gwneud eu gorau i fesur effaith y digwyddiad ar y ddinas, gan ddweud bod y cynulleidfaoedd cynyddol hefyd wedi arwain at "ymgysylltu yn fwy efo cymunedau gwahanol".
Ychwanegodd fod yr ŵyl wedi datblygu ap mewn ymdrech i ddefnyddio llai o bapur a bod yn fwy ecogyfeillgar.
Dywedodd hefyd fod y trefnwyr wedi penderfynu symud i safle mwy oherwydd y gynulleidfa gynyddol, a chael mwy o hyblygrwydd o ran sut i wasgaru'r maes hefyd.