Poblogrwydd rygbi cyffwrdd ar gynnydd yng Nghymru

Mae'n gêm efallai nad yw nifer yn gyfarwydd â hi, ond mae rygbi cyffwrdd yn gamp sy'n tyfu o ran poblogrwydd yng Nghymru.

Wedi esblygu o rygbi'r gynghrair, mae'n gamp gynhwysol ac yn un o'r chwaraeon prin lle mae dynion a menywod yn gallu chwarae ochr yn ochr â'i gilydd.

Dros yr wythnosau nesaf fe fydd timau'n cynrychioli Cymru mewn sawl cystadleuaeth Ewropeaidd, gan ddechrau'r wythnos hon yn Nottingham.

Adroddiad Lowri Roberts i raglen Newyddion S4C.