Gwylio banana'n pydru i ddysgu gwers i ddringwyr Yr Wyddfa
Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio i annog cerddwyr i beidio â gadael sbwriel organig fel bananas ar fynydd uchaf Cymru.
Croen banana ydy un o'r mathau o sbwriel mwyaf cyffredin sydd wedi ei weld ar lethrau a llwybrau'r Wyddfa.
Mae bananas yn cymryd mwy o amser i bydru na'r disgwyl, yn enwedig ar dir uchel.
Felly mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gosod camera arbennig mewn lleoliad cyfrinachol ar gopa'r Wyddfa i recordio croen banana yn pydru dros amser.
Fideo gan Rhys Thomas.