David TC Davies: 'Siom isetholiadau i'r Ceidwadwyr'

Mae'r Ceidwadwyr wedi colli dwy sedd ddiogel mewn isetholiadau dros nos, ond llwyddodd y blaid i gadw eu gafael o drwch blewyn ar gyn-sedd Boris Johnson.

Enillodd Llafur sedd Selby ac Ainsty yn Sir Efrog, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio sedd Somerton a Frome yng Ngwlad yr Haf.

Er hynny daliodd Steve Tuckwell afael y Ceidwadwyr ar sedd Uxbridge a South Ruislip, ar gyrion Llundain, gyda mwyafrif o 495 - oedd yn sylweddol is na mwyafrif 7,210 Mr Johnson yn 2019.

Roedd yn golygu bod Rishi Sunak wedi ei arbed rhag bod y prif weinidog cyntaf ers 55 mlynedd i golli tri isetholiad mewn un noson.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, fod colli dwy sedd yn "siom" a bod yn "rhaid i'r blaid wneud yn well".

Er bydd yn rhaid cynnal etholiad cyffredinol cyn diwedd Ionawr 2025, ychwanegodd nad oedd yn teimlo bod canlyniadau'r isetholiadau "am reflectio beth sydd am ddigwydd mewn etholiad cyffredinol".