Tanau Groeg: 'Mae wedi bod yn 32 awr ofnadwy'

Mae teithiwr o Fôn wedi bod yn disgrifio'r profiad o orfod dianc o'i gwesty oherwydd y tanau gwyllt sydd wedi taro rhai o ynysoedd Groeg.

Mae'r wlad yn wynebu sefyllfa argyfyngus gyda tua 16,000 o bobl wedi ffoi o ynys Rhodos dros y penwythnos, wrth i dai a gwestai gael eu dinistrio.

Ac wrth i'r tymheredd godi i'r 40au, y rhybudd yw mai gwaethygu y gall pethau dros y dyddiau nesaf.

Roedd Marlyn Samuel a'i gŵr Iwan, o Bentre Berw ar Ynys Môn, wedi mynd ar wyliau i Lindos ar ynys Rhodos.

Ond bu'n rhaid iddynt bacio eu dillad a gadael y gwesty ganol nos am resymau diogelwch.

Am 04:00 cafodd pawb eu hebrwng mewn bysiau i ysgol yn Rhodos a bu'n rhaid iddynt gysgu ar fatras ar lawr.

Bellach wedi glanio nôl ym Manceinion fore Llun, dywedodd Marlyn ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fod yr holl brofiad wedi bod yn "hunllef i ddweud y gwir".