Ffermwyr ddim yn 'adennill eu costau o'r farchnad'
Mae un o brif ffermwyr llaeth y gorllewin yn cefnu ar statws organig ar ôl 23 o flynyddoedd.
Yn ôl Aled Rees o fferm Trefere Fawr ger Aberteifi mae sawl ffactor yn gyfrifol am y penderfyniad, gan gynnwys newid hinsawdd a chostau porthiant cynyddol.
Yn ymateb i sefyllfa Mr Rees ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones fod Cymru wedi bod yn "flaenllaw iawn" yn y maes organig yn hanesyddol.
"'Da ni erioed wedi gweld cyfnod fel 'da ni wedi gweld yn ystod y ddwy, dair blynedd ddiwethaf 'ma, lle mae'r costau wedi cynyddu mor eithriadol," meddai Mr Jones.
"Mae 'di bod yn anodd adennill y costau yna o'r farchnad, a dyna ydi'r broblem," ychwanegodd, gan ddweud bod hyder y diwydiant wedi'i ddifrodi.
"A ydych chi'n mynd i fuddsoddi yn eich busnes pan 'da chi'n gweld heriau mor eithriadol?"