Gobaith y bydd polisi newydd URC yn hwb i'r Gymraeg

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi lansio polisi newydd gyda'r bwriad o wella'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y sefydliad.

Mae'n cynnwys ymrwymiad i gynyddu'n "sylweddol" ddarpariaeth yr undeb yn yr iaith i'r cyhoedd.

Fe gafodd y polisi ei gyhoeddi mewn digwyddiad ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Roedd yna groeso i'r datblygiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones a Ioan Cunningham, hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru.